Cylchffordd Rasio Blaenau Gwent III

Mewn ymateb i gyfres o scandalau gwleidyddol yn y 1990au, paratowyd adroddiad gan yr Arglwydd Nolan, Cadeirydd Pwyllgor Safonau Bywyd Cyhoeddus. Amlinellwyd y saith Egwyddor Nolan, sydd i fod i’w dilyn gan bawb sydd mewn “swyddogaeth gyhoeddus”.

Er nad oes diffiniad cyfreithiol o swyddogaeth gyhoeddus, mae un Athro Cyfraith yn cynnwys y canlynol o dan y diffiniad: gweinidogion, gweision sifil a chynghorwyr arbennig, Aelodau ac uwch swyddogion sefydliadau cyhoeddus anlywodraethol, ac Aelodau ac uwch swyddogion sefydliadau eraill sydd yn gweithredu ar ran y cyhoedd gan ddefnyddio arian cyhoeddus. Yn sicr ddigon, o dan diffiniad yr Athro Leopold, bydde Gweinidogion Llywodraeth Cymru, Aelodau Bwrdd ac uwch swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru i gyd yn dod o dan trefn Nolan. Mae Egwyddorion Nolan yn gofyn i’r sawl sydd â swyddogaeth gyhoeddus fod yn:

  • Anhunanol – ymddwyn mewn modd sydd ond o fudd i’r cyhoedd. Na ddylid gweithredu er mwyn ennill buddion i’w hunain, eu teuluoedd na’u cyfeillion.
  • Cywir/â hygrededd – peidio gadael i ddiddordebau allanol effeithio ar eu penderfyniadau cyhoeddus.
  • Gwrthrychol – dylid wneud penderfyniadau yn wrthrychol
  • Atebol – dylid fod yn agored i graffu cyhoeddus parthed eu penderfyniadau ac ymddygiad
  • Tryloyw – dylid fod mor agored ag sy’n bosib ynghylch pob penderfyniad, a rhoi rhesymau drostynt.
  • Gonest – mae dyletswydd i gyhoeddi eu diddordebau preifat sy’n berthnasol i’w rôl gyhoeddus, a chymryd camau i wneud yn siwr nad ydy buddiannau’r cyhoedd yn cael eu tramgwyddo gan ddiddordebau preifat.
  • Arwain – dylid ymddwyn mewn ffordd sy’n dangos arweinyddiaeth o safbwynt yr egwyddorion hyn.

Dwi wedi siarad ag Aelod Cynulliad ynghylch diddordebau preifat. Meddai ei bod yn bwysig nid yn unig bod unrhyw ddiddordebau preifat yn cael eu cofnodi sydd yn gwrthdaro o bosib â’r rôl gyhoeddus, ond ei bod hi’n bwysig cofnodi unrhyw ddiddordebau all gael eu gweld fel rhai sy’n gwrthdaro o bosib.

Sut mae rhai o’r bobl sydd wedi ymwneud â  Chylchdaith Rasio Blaenau Gwent yn cydymffurfio ag Egwyddorion Nolan?

I gychwyn, dwi wedi siarad â rhywun sydd yn adnabod yr Aelod o Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru, Harry Legge-Bourke. Meddai wrthof:

Wrth gwrs bod Harry yn mynd i elwa o’r Cylchffordd Rasio. Mae’n perchen ar Ystad Glanusk. Ble mae’r cyfoethogion y honnir fydd yn dod yn eu hofrenyddion i wylio’r rasio yn mynd i aros? Ydyn nhw wir yn mynd i aros mewn gwely a brecwast yn Rasau neu Garnlydan, neu yn un o fythynnod Ystad Glanusk?

Diddorol hefyd yw nodi’r modd mae Harry wedi mynegi ei farn ar benderfyniad Cyfoeth Naturiol Cymru parthed y Cylchffordd Rasio:

Dwi ddim o blaid nag yn erbyn y buddsoddiad £300m hwn… Gyda symiau mor anferthol o arian yn y fantol, mae’n bwysig ein bod yn cymryd y trywydd cywir o’r cychwyn cyntaf… Does dim diben mewn Aelodau Bwrdd gwthio ffyrdd newydd o wneud pethau os bydd hen ffyrdd yn dal i gael eu defnyddio… Mae’n bwysig i ni gael y penderfyniad hwn yn iawn, gan bod na symiau mor fawr o arian yn y fantol.

Ai rôl Aelodau Bwrdd ydy “gwthio” un ffordd neu’r llall o weithredu? Nodwch hefyd y modd mae Harry yn diystyru’r pryderon difrifol a gofnodwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru a Phennaeth Iechyd Amgylcheddol Cyngor Blaenau Gwent, wrth ddweud:

Rhaid i fi gyfaddef, mae’n or-ddweud o safbwynt “effaith ar yr amgylchedd”… Byddwch yn gweld y datganiad tangnefedd, rydym yn byw mewn ardal Awyrlu ehediadau isel yn enw’r Tad… dwi wir yn pendroni ynghylch yr hyn rydym yn ysgrifennu a phryd.

Dylem ystyried cyd-destun cyfreithiol rôl cynllunio Cyfoeth Naturiol Cymru. Oherwydd yn ôl David Elvin QC:

Ni fydd buddion economaidd sydd ag effaith ar yr amgylchedd yn bodloni pwrpas [Cyfoeth Naturiol Cymru] oni bai bod y datblygiad yn gynaliadwy.

Gallem gymharu safbwynt Mr Legge-Bourke gydag un Morgan Parry:

Nid ein rôl ni ydy rhoi cyngor ar y buddion economegol a chymdeithasol a fy marn i ydy na ddylem wneud hynny. Dyna yw rôl y datblygwr, y siambr fasnach leol, y CBI a’r grwpiau eraill sy’n hybu datblygu economegol…

Yr unig ffordd y bydd ein cyngor parthed pynciau fel y Cylchffordd Rasio yn newid yw os bydd Llywodraeth yn mynnu ein bod yn cymryd ystyriaeth o ffactorau amgen, uwchben ffactorau amgylcheddol. Diwrnod trist iawn fydde hynny, dwi’n credu. Cyn belled â’n bod yn rhoi cyngor sydd yn ffeithiol gywir, wedi seilio ar dystiolaeth gadarn, a sydd yn unol â’n amcanion, a chydnabydodd dimensiynau economegol a chymdeithasol y cais, dylem cefnogi ein staff. Credaf hefyd y dylem lleisio barn yn amynedd a gwylaidd, gan danlinellu gwerth economaidd a chymdeithasol y Parc Cenedlaethol, a phetaem yn gwneud hynny byddem yn dal ein gafael ar gefnogaeth gyhoeddus a gwleidyddol, hyd yn oed petaem yn gwneud pethau rhywfaint yn anghyfleus i’r Llywodraeth presennol.

Ydy swyddogion Llywodraeth Cymru yn ddi-fai? Rhaid i ni droi at Andrew Ward, Swyddog yn Adran Cynllunio Llywodraeth Cymru. Mewn llythyr at y Gweinidog, mae’n nodi “llygredd sŵn” fel un o’r rhesymau a ysgogodd pryder ynghylch y sawl a alwodd am i’r cais cael ei alw i mewn.

Ond nid yw’n cyfeirio at y broblem hon unman arall yn y ddogfen. Mae’n crynhoi’r “prif broblemau” gan osgoi sôn am sŵn. I swyddog cynllunio dwi’n tybio bod hwn yn gamgymeriad sylfaenol. Baswn i’n disgwyl iddo gysylltu yn ôl â Chyfoeth Naturiol Cymru er mwyn cael cadarnhad nad oedd sŵn yn broblem cyn argymell peidio galw’r cais i mewn. Gwerth sôn nad oedd Mr Ward wedi gofyn am gyngor cyfreithiol parthed y cais. 

A beth am uwch-swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru? Mae Graham Hillier ac Emyr Roberts ill ddau yn dod o dan ystyriaeth. Graham a anfonodd ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru wnaeth peidio argymell galw’r cais i mewn. Gadewch i ni gofio nad oedd Graham wedi gweld effaith sŵn yn ddigon pwysig i dynnu sylw’r Gweinidog, a’i fod yn amlwg wedi ystyried y cytundeb – nad oedd yn werth y papur yr ysgrifennwyd arno – fel un oedd yn ysgubo holl bryderon bioamrywiaeth, pridd uchel ei garbon ac effaith weledol i’r neilltu.

Ac Emyr? Mi wnes i gwrdd ag Emyr ym mis Tachwedd, gan ddangos yr holl dystiolaeth parthed effaith sŵn, a gofyn a oedd yn ystyried bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi camarwain y Gweinidog. Dim o gwbl, meddai. Ac mae Emyr wedi cadarnhau nad ydyw wedi ymchwilio i’r mater ymhellach.

Mae dau sefydliad sy’n waeth na’r un sy’n gwneud camgymeriadau. Un yw sefydliad nad sy’n cydnabod bod camgymeriadau wedi’u gwneud. A’r llall yw’r un nad sydd am ddysgu o’i gamgymeriadau.

Mae’n bosib felly bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi:

  • Ildio i bwysau gan Lywodraeth Cymru er bod y corff i fod yn annibynnol o’r llywodraeth – a hynny o bosib wedi effeithio’n andwyol ar wrthrychedd y penderfyniad a wnaethpwyd parthed y Cylchffordd Rasio
  • Gweithredu’n anghyfreithlon wrth beidio cymryd ystryiaeth o effaith sŵn y datblygiad, neu wrth beidio â nodi’r camau mae wedi cymryd i ystyried sŵn
  • Gweithredu’n anghyfreithlon wrth lofnodi cytundeb hollol anaddas ac annigonol fel cyfiawnhad i beidio gofyn i’r Gweinidog alw’r cais i mewn
  • Camarwain y Gweinidog, Carl Sargeant, trwy beidio rhoi y gwybodaeth oedd angen arno i gymryd penderfyniad i alw’r cais i mewn

Mae ‘na darn o dystiolaeth ychwanegol fydd yn peri pryder i unrhywun sy’n credu bod tryloywder yn beth pwysig waeth beth yw’r egwyddorion Nolan. Mae e-bost gan Morgan Parry yn sôn bod “Peter M” yn credu fod Emyr yn “baranoid” ynghylch tryloywder ac argaeledd gwybodaeth. Ai Emyr Roberts a’i fos ei hun, Peter Matthews (Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru) yw’r Emyr a Peter M yma? Cewch ddod i’ch casgliadau eich hun:

Yn amlwg nad ydy Emyr yn credu bod angen iddo ymateb i ymholiadau gan y Bwrdd. Siaradais â Peter M yn gynharach a ddywedodd bod Emyr yn gyndyn i wneud oherwydd ei baranoia ynghylch gwneud pethau yn gyhoeddus, FoIs ayyb.

Ac os mai Peter Matthews ac Emyr Roberts yw’r sawl roedd Morgan yn cyfeirio atynyt, pa gamau mae Peter wedi cymryd i newid agwedd Emyr, tybed? Oherwydd mae Peter – rheolwr uniongyrchol Emyr, cofiwch – yn gwybod Egwyddorion Nolan yn well na neb. Wedi’r cwbl, mae Peter wedi bod yn ffigwr cyhoeddus ers i drefn Nolan ddod i fodolaeth.

Mae Peter bellach yn ymwybodol o’r sefyllfa, oherwydd erbyn i chi ddarllen yr erthygl hon mae wedi derbyn e-bost gennym yn tynnu ei sylw at yr erthyglau hyn. Gobeithio’n fawr y bydd Peter yn gorchymyn ymchwiliad mewnol i’r mater yn ddisymwth. Ac yn enwedig felly gan fod Cyfoeth Naturiol Cymru o’r farn eu bod wedi dangos perfformiad cryf ynghylch “rheoli enw da parthed Cylchffordd Rasio Blaenau Gwent”. Ai adfer enw da Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r nod pennaf, ynteu trefn gweithredu priodol, cyfreithlon?

Mae gweithredu mewn ffordd sy’n gywir yn aml iawn yn anoddach nag i ymddwyn mewn modd sy’n gyfleus, neu mewn modd sy’n rhoi budd i’r unigolyn. Dwi’n cofio sgwrs a gefais ag Aelod Cynulliad:

Fe wnes i anghytuno gyda safbwynt un o’m cydweithwyr, ac mi anwybyddwyd i am ddeng mlynedd. Dwi’n teimlo fel y bydd rhaid i fi anghytuno gyda’r un person eto cyn bo hir… os caf fy anwybyddu am ddegawd arall, felly y bydd.

Mawr yw fy edmygedd o’r Aelod Cynulliad yma sy’n rhoi cywirdeb, egwyddor a hygrededd ymhell uwchben cyfleustra a budd unigolyn. Tybed sut mae rhai o’r bobl dwi wedi eu crybwyll ar y tudalennau diweddaraf yma yn teimlo pan edrychant yn y drych?

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s