Category Archives: Llywodraeth lleol

Cylchffordd Rasio Blaenau Gwent – Beth Sydd  ChNC i’w Guddio?

Oes rhagor o gyfrinachau i ddod o du Cyfoeth Naturiol Cymru?

Dwi wedi chwilota ym mhob agenda, a chofnodion pob cyfarfod Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru. Does ‘na ddim sôn am Cylchffordd Rasio Blaenau Gwent. A hwn, er yr holl broblemau amlwg mae safbwynt Cyfoeth Naturiol Cymru wedi achosi i’w hun. Os byddwch yn chwilio am drafodaeth ar lefel Bwrdd y sefydliad, byddwch yn dod i’r casgliad mai pwnc ymylol, dibwys ydy’r Cylchffordd.

Ond nid dyna’r gwirionedd. Oherwydd er nad oes ‘na’r un sôn am y datblygiad dadleuol hwn ar gyfyl cofnodion cyfarfodydd Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru, dydy hynny ddim yn gyfystyr â diffyg trafodaeth.

Oherwydd mae papur tair tudalen yn bodoli, sydd wedi’i ddisgrifio fel papur “to the Board: Circuit of Wales update 2 September 2013”.

Mae’r papur yma yn ddadlennol. Mae’n disgrifio:

Background… the scheme brings with it significant environmental impact relevant to NRW’s remit.

Loss of peat soils and climate change impact. The proposal would result in the significant disturbance / loss of peat and peaty soils (potentially over 700,000 cubic metres)…  This loss of peat has implications for carbon sequestration, releases of carbon dioxide to the atmosphere and ecosystem goods and services such as water retention and filtering. On current available information, the proposed payback time of carbon mitigation measures is up to 89 years.

Landscape. NRW considers that the impacts up the Brecon Beacons National Park have been under estimated and not addressed at the outline stage. The Environmental Statement acknowledges that 3 viewpoints within the BBNP would experience a significant effect on visual amenity, as well as the tranquillity aspects of the National Park and noise for residents.

Biodiversity loss. The proposal would result in the loss of over 230 ha of Biodiversity habitat including priority Biodiversity Action Plan habitats. To compensate for the loss of habitats, mitigation land has been identified on an area of c250ha of moorland adjoining the application site. It is proposed that this area be managed to improve the quality of existing habitat. This was offered prior to the determination by Blaenau Gwent but considered insufficient by NRW since it did not adequately compensate for the direct loss of habitat.

Loss of watercourses. All the existing watercourses within the main development footprint would be lost or culverted. The applicant was asked to make provision to seek to avoid/mitigate or compensate for the loss of watercourse and seasonal ponds, including assurances for the long term protection and maintenance of the existing watercourses/seasons ponds and the landscape around them. To date no direct mitigation or compensatory measures have been considered either on or off site for the loss of watercourses.

Groundwater.  Details of the level of groundwater have not been provided in the ES or its addendum. NRW objected due to lack of information and stated that this information should be provided and assessed prior to determination of the application. This information is required to assess the impact of a proposed petrol filling station and location of associated fuel tanks. The application site impinges on on a local potable water supply catchment and Dwr Cymru have raised concerns of the risk that the proposed development would bring to the contamination of drinking water supplies.

Common land. The 340 hectares of the proposal would be de-registered as Common Land. NRW is concerned that the future implications for future grazing on the adjacent areas of the common have not been fully considered, in particular the implications for future grazing on the heath communities that form part of the Mynydd Llangatwg Special Area of Conservation.

Dim byd syfrdanol am hynny; fel y mae’r papur ei hun yn amlygu, mae Cylchffordd Rasio Blaenau Gwent yn:

“tynnu sylw cyfryngau lleol a chenedlaethol. Mae CNC yn rhoi gwybodaeth i’r cyfryngau ond yn gyffredinol wedi gwrthod cyfweliadau”

Ond y ffaith yw bod yr holl broblemau a nodir uchod yn cael eu rhestru ar ôl i Gyfoeth Naturiol Cymru ddweud wrth y Gweinidog nad oedd angen galw’r cais i mewn am ystyriaeth Weinidogol. Hynny yw, bod yr “effeithiau amgylcheddol sylweddol” yma i gyd o bwys lleol yn unig.

Ydy bygythiad posib i ddŵr yfed yn fater o bwys lleol yn unig? Beth am yr effaith sŵn a restrir fel problem i ymwelwyr i’r Parc Cenedlaethol? Ac effeithiau hinsawdd sylweddol fydd ond yn cael eu had-dalu ar ôl 89 o flynyddoedd?

Unwaith eto, mae’n rhaid gofyn cwestiynau am agwedd Cyfoeth Naturiol Cymru tua’r broses yma. Oedd ymyrraeth y Gweinidog wedi darbwyllo ar uwch-swyddogion y sefydliad fel eu bod yn teimlo bod yn rhaid iddynt beidio rhwystro’r datblygiad? Emyr Roberts a Graham Hillier yw’r rhai i wybod, tybiwn i.

Gan bod y pwnc yma mor ddadleuol, ac o bwys lleol a chenedlaethol, base dyn yn disgwyl i Gyfoeth Naturiol Cymru arddel tryloywder i sicrhau bod pob dim yn agored i’w graffu.

Ond pam felly nad oes yr un cyfeiriad at y papur yma yn y cofnodion na’r agendau i gyfarfodydd y Bwrdd ar 4 Medi 2013 (na chyfarfod y Bwrdd ar 16 Hydref 2013)? Ai dyma’r unig achos erioed i’r’ Bwrdd trafod y Cylchffordd Rasio? Beth sydd â Chyfoeth Naturiol Cymru i guddio?

Tra ydym ni’n sôn ddiffyg tryloywder, pam nad ydy Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyhoeddi’r papurau a ddateglir o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn yr un man ag y mae’n rhestri’r ceisiadau eu hun? Pam bod angen i rywun anfon ebost “at atiteam@naturalresourceswales.gov.uk gan ddyfynnu’r rhif cyfeirnod ATI” er mwyn cael gafael ar y gwybodaeth

A pham, os mae’r sefydliad wedi’i ymrwymo i dryloywder, mai nhwthau sy’n penderfynu pa dogfennau i’w cyhoeddi a pha rhai i gadw iddynt hwythau?:

Dylid nodi nad yw’r cofnod datgeliadau yn rhestru popeth a ryddhawyd o dan y Ddeddfwriaeth Mynediad at Wybodaeth. Mae’r meini prawf ar gyfer datgelu ymatebion yn cynnwys

  • budd sylweddol i’r cyhoedd
  • dangos gweithdrefnau mewnol
  • dangos sut mae arian cyhoeddus wedi cael ei wario

Pwy yw’r corpws  gorau i farnu os oes ‘na budd sylweddol i’r cyhoedd? Y sawl sydd o dan y chwyddwydr neu’r cyhoedd ei hun?

Oes rhaid i ni gymryd bod Peter M yn gywir pan ddywedodd bod ag Emyr:

[p]aranoia ynghylch gwneud pethau yn gyhoeddus, FoIs ayyb

Advertisements

Cyfweliad Emyr Roberts

Gwnaeth Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, gyfweliad ddydd Mercher 26 Mawrth â John Walter ar Radio Cymru.

I’r sawl ohonoch nad oedd yn ddigon ffodus i allu wrando ar y cyfweliad, dyma drawsgrifiad o ran ohono.

John Walter:

Mae’r ffin yn denau hefyd yntydi rhwng cadwraeth a datblygiadau gweithgaredd hamdden, fel rydyn ni wedi gweld mewn rhai achlysuron, ac un o’r enghreifftiau yma efallai ydy’r trac rasio arfaethedig yng Nglyn Ebwy, a dyma gen Gareth Clubb o Gyfeillion y Ddaear i ddweud am ei bryderon o ynglyn â’r datblygiad yma, a safiad Cyfoeth Naturiol Cymru

Gareth Clubb:

Mae gyda Chyfeillion y Ddaear pryderon ynghylch y trac rasio yma ond yn bennaf oll, mae’n rhaid i ni fynd yn ôl at adroddiad manwl Cyfoeth Naturiol Cymru lle wnaethon nhw codi pump maes gwahanol lle roedd gyda nhw pryderon uchel iawn ynghylch y trac rasio:

Effaith weledol ar Barc Cenedlaethol y Bannau Brycheiniog

Effaith sŵn ar y Parc Cenedlaethol

Effaith golau ar y Parc Cenedlaethol

Effaith ar fywyd gwyllt, ac

Effaith ar bridd uchel ei garbon

Os ydych chi’n crynhoi a chyfansymu yr holl bryderon yma mae’n amlwg na ddyle’r datblygiad yma fynd yn ei flaen.

O fewn tair wythnos a thridiau o ddyddiad cyhoeddi adroddiad manwl iawn ynghylch ffaeleddau’r cais cynllunio, daethon nhw i gasgliad bod dim eisiau i Weinidog Cymru galw’r cais i mewn a mi oedd y cyfnod hwnnw yn rhy gwta o bell ffordd iddyn nhw ystyried yn fanwl bod ‘na modd gwneud yn dda am yr effeithiau andwyol iawn bydde’r cais cynllunio yn ei gael.

‘Dyn ni yn ofni bod y sefydliad yma wedi dod o dan bwysau gan Lywodraeth Cymru a wedi ymateb mewn ffordd sydd yn tanseilio y broses gywir, y broses fe ddyle Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dilyn.

Mae ‘na ebost gan y diweddar Morgan Parry sydd yn dweud bod rhywun o’r enw Emyr yng nghysylltiad Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ei ddisgrifio gan rywun o’r enw Peter M fel bod yr Emyr yma yn “paranoid” ynghylch rhoi gwybodaeth yn gyhoeddus. Nawr, dyw hi ddim yn anochel bod y Peter M yma yn Peter Matthews, Cadeirydd y Bwrdd, a dyw e ddim yn anochel bod Emyr yw Emyr Roberts, Prif Weithredwr y sefydliad, ond dyna un casgliad gallen ni tynnu o’r gwybodaeth, ac wrth gwrs, o dan egwyddorion Nolan, mae’n bwysig iawn i sefydliadau cyhoeddus fod yn dryloyw, ac yn bwysig iawn bod y penderfyniadau a gymerwyd gan sefydliadau cyhoeddus yn dryloyw. Ac os oes yna unrhyw wirionedd i’r honiad bod Emyr Roberts yn paranoid ynghylch rhoi gwybodaeth yn gyhoeddus, mae hwnnw yn gyhuddiad difrifol iawn ac mae yn amlwg yn mynd yn groes i egwyddorion Nolan.

John Walter:

Emyr Roberts, ga i’ch sylwadau chi ar yr hyn mae gen Gareth Clubb i ddweud, yn enwedig yn ail hanner y cyfweliad yna, yn sôn am dryloywder a gwybodaeth cyhoeddus a chyndynrwydd i wneud hynny efallai?

Emyr Roberts:

Wel dwi ddim yn meddwl fy mod i’n paranoid o gwmpas lle mae’r syniad ‘na wedi dod. Ga i jest esbonio be ddigwyddodd yn yr achos yma. Mae’n bwsig i ddweud o’r cychwyn mai rôl Cyfoeth Naturiol Cymru yw i roi cyngor i’r awdurdod lleol ac mae Gareth yn hollol gywir, fe wnaethon ni wrthwynebu’r cynnig oherwydd yr effaith ar yr amgylchedd yn y lle cyntaf. Ond be ddigwyddodd wedyn, mi ddaru’r awdurdod lleol Blaenau Gwent rhoi caniatâd amlinellol i’r cais yma a fe ddaru ni edrych ar y sefyllfa a phenderfynu mai y ffordd orau o gael y canlyniad gorau ar gyfer yr amgylchedd oedd cydweithio gyda’r datblygwr a thrwy wneud hynny, a hefo’r awdurdod lleol dyn ni wedi medru sicrhau hyd at 800 hectar o dir sy’n cael ei reoli a’i warchod er fudd bywyd gwyllt a na fyse’r tir yna ddim ar gael pe na fyddem wedi cael y sgyrsiau yna gyda’r datblygwr. Felly rhan o’n rôl ni ydy edrych ar ôl cadwraeth, yn amlwg, ond hefyd yr economi trwy gydweithio â rhai achosion gyda’r datblygwyr, rydyn ni’n medru sicrhau yr amgylchedd.

John Walter:

Ond oedd ‘na bwysau arnoch chi i newid meddwl, ac o wedi newid eich meddwl, ydych chi’n meddwl bod eich perthynas chi, a’ch delwedd chi, wedi cael ei niweidio?

Emyr Roberts:

Ddim pwysau o gwbl arnom ni…

John Walter:

… gen neb, gen yr awdurdod lleol na gan Lywodraeth Cymru?

Emyr Roberts:

… na, ddim o gwbl…

John Walter:

… wnaeth neb siarad efo chi o gwbl, dim ond eich penderfyniad chi fel asiantaeth?

Emyr Roberts:

Fe ddaru ddigon o bobl siarad efo ni, ond…

John Walter:

… y Llywodraeth, a’r awdurdod lleol?

Emyr Roberts:

Ddaru’r Llywodraeth ddim siarad efo ni o gwbl, ddaru’r awdurdod lleol ddim siarad efo ni o gwbl. Be wnaethon ni oedd edrych ar y sefyllfa, be oedd y dystiolaeth, a dyna oedd ein barn ni. ‘Dyn ni’n ceisio edrych ar ôl yr amgylchedd, hefyd rydyn ni’n ymwybodol o’r economi a’r effaith ar y gymdeithas. Doedd ‘na ddim pwysau arnom ni a ‘dyn ni’n meddwl bod y cynllun ‘dyn ni wedi gweithio arno fo gyda’r awdurdod lleol, dyna ydy’r gorau ar gyfer yr amgylchedd.

John Walter:

Ond be am yr hyn yr oedd Gareth Clubb yn ei ddweud oedd yn yr ebost yma a anfonwyd gan gyn-aelod, yn anffodus, o’r asiantaeth, ydych chi’n cytuno efo fo? Reit – a i ddim ar ôl y gair oedd e’n ei ddefnyddio, bod ‘na… beth oedd y gair… paranoia, ond be ydy’ch ymateb chi i’r ebost yna?

Emyr Roberts:

Wel, mae’n rhydd i bawb ei farn, gan gynnwys aelodau’r Bwrdd, chi’n gwybod, mae hwn yn rhan o’r broses yma…

John Walter:

Ond Cadeirydd y Bwrdd a ddeudodd e, mae hyn yn eitha honiad, yntydi, gan Gadeirydd corff cyhoeddus, bod ‘na baranoia ar ran y Prif Weithredwr i beidio rhannu gwybodaeth

Emyr Roberts:

Mae’n rhydd i bawb gael ei farn ar hynny, mi wnaethon ni rhannu’r gwybodaeth yn agored gyda’r Bwrdd. Y ffordd mae hwn yn gweithio, ‘dyn ni’n briffio y Bwrdd ym mhob cyfarfod ynglyn â beth sy’n mynd ymlaen a be’ wnaethon ni ar yr achlysur  yma oedd briffio’r Bwrdd fel eu bod yn gwybod beth oedd yn mynd ymlaen. Ar ddiwedd y dydd, penderfyniad y staff oedd hyn ar ôl edrych ar y dystiolaeth.

Mae sawl pwynt sy’n taro rhywun ar unwaith.

  1. Os mae Emyr yn gywir, a gall awdurdod lleol rhoi caniatâd cynllunio amlinellol heb gael unrhyw fewnbwngan y sefydliad sy’n rhoi cyngor statudol ynghylch yr amgylchedd, mae rhywbeth yn sylfaenol ddiffygiol am y system cynllunio. Bydd angen dybryd mynd i’r afael â’r sgwarnog hynny yn syth bin, yn enwedig wrth ystyried honiad Emyr “Mae’n bwsig i ddweud o’r cychwyn mai rôl Cyfoeth Naturiol Cymru yw i roi cyngor i’r awdurdod lleol”. Beth yw pwrpas cyngor Cyfoeth Naturiol Cymru os nad oes rhaid i awdurdod lleol gymryd yr ystyriaeth leiaf ohono?
  2. Roedd Cyngor Blaenau Gwent yn ymwybodol o wrthwynebiad Cyfoeth Naturiol Cymru i’r cynllun: “fe wnaethon ni wrthwynebu’r cynnig oherwydd yr effaith ar yr amgylchedd yn y lle cyntaf. Ond be ddigwyddodd wedyn, mi ddaru’r awdurdod lleol Blaenau Gwent rhoi caniatâd amlinellol i’r cais yma”. Mae hwn yn syfrdanol. Er bod Cyngor Blaenau Gwent yn ymwybodol bod y sefydliad statudol amgylcheddol yn gwrthwynebu’r cais, aeth ati i roi caniatâd cynllunio amlinellol. Mae’n dangos, unwaith eto, ffaeleddau mawr naill ai yn y system cynllunio sy’n galluogi awdurdod lleol i anwybyddu pryderon amgylcheddol, neu ffaeleddau gan Gyfoeth Naturiol Cymru i beidio â gorfodi Llywodraeth Cymru i ymatal y cyngor rhag cymryd penderfyniad.
  3. Meddai Emyr “‘dyn ni wedi medru sicrhau hyd at 800 hectar o dir sy’n cael ei reoli a’i warchod er fudd bywyd gwyllt a na fyse’r tir yna ddim ar gael pe na fyddem wedi cael y sgyrsiau yna gyda’r datblygwr”. Ond nid creu y tir mae Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r tir yma yn dir comin, a felly yn hafan i fywyd gwyllt i raddau ta beth. Dwi ddim yn honni nad oes modd gwella bywyd gwyllt ar y tir, ond rhaid canolbwyntio ar y golled nas grybwyllwyd gan Emyr Roberts: 236 hectar o rosdir.
  4. Dydy Emyr ddim yn gwadu mai fe a Peter Matthews oedd testun ebost Morgan Parry, er ei fod yn dweud “Wel dwi ddim yn meddwl fy mod i’n paranoid  o gwmpas lle mae’r syniad ‘na wedi dod”. Dwi’n tybio y bydd awyrgylch y cyfarfodydd nesaf rhwng y ddau ddyn yma yn oer ar y naw.
  5. Mae’n debyg taw celwydd noeth oedd honiad Emyr “Ddaru’r Llywodraeth ddim siarad efo ni o gwbl, ddaru’r awdurdod lleol ddim siarad efo ni o gwbl”. Un enghraifft sydd newydd ddod i’r fei ydy’r llythyr yma o Graham Hillier at Alun Davies:

Yn ein cyfarfod ar 18 Mehefin addewais i roi rhagor o wybodaeth ynghylch y cynllun erbyn heddiw. Mae hwn yn dilyn sawl cyfarfod rhwng cynghorwyr yr ymgeisydd, ninnau a Chyngor Blaenau Gwent dros y 10 niwrnod diwethaf.

Mae arddull y llythyr hwn yn dangos perthynas o daeogrwydd i’r Gweinidog yn hytrach na sefydliad sydd yn gryf, annibynnol ei farn. Mae’n mynd mor bell ag awgrymu:

Un posibiliad fydde i nifer o’n staff arbenigol weithio yn uniongyrchol llaw yn llaw gydag ymgynghorwyr yr ymgeisydd, er mwyn rhoi mwy o gapasiti uniongyrchol er mwyn canfod ffyrdd o gydymffurfio ag anghenion Rheoleiddiadau Asesiad Effeithiau Amgylcheddol, er enghraifft. Bydd yn rhaid i ni sicrhau nad oes gwrthdaro buddiannau trwy weithredu yn y fath modd, ond credwn bod cynsail gallem ei ddilyn. Byddwn yn archwilio’r posibilrwydd hwn wythnos nesaf, ond mae pryder o hyd y bydd angen rhagor o amser nag sydd ar gynnig ar hyn o bryd os ydym i gael cynydd yn y broses.

Mae’n gwbl syfrdanol bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn fodlon ystyried treulio eu hadnoddau, gan gynnwys amser ac arbenigedd ‘nifer’ o’u staff, er mwyn hwyluso taith un cais cynllunio trwy’r broses Asesiadau Effaith Amgylcheddol. Gwrthdaro buddiannau? Onid ydy hi’n hollol amlwg?

Mae’n amlwg erbyn hyn bod pethau wedi mynd i chwith o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru parthed

  • Eu penderfyniad i beidio argymell galw’r cais i mewn am y rhesymau a amlinellwyd yn yr erthyglau blaenorol
  • Eu methiant i atal yr awdurdod lleol rhag cymryd penderfyniad, neu eu hanallu i wneud
  • Dylanwad Llywodraeth Cymru – neu beidio – ar y penderfyniadau a gymerwyd

Fel canlyniad, dwi’n bwriadu ysgrifennu at Gadeirydd Pwyllgor Amgylchedd y Cynulliad Cenedlaethol gan ofyn am ymchwiliad i’r ffordd aethpwyd ati gan Gyfoeth Naturiol Cymru i gymryd eu penderfyniadau parthed Cylchffordd Rasio Blaenau Gwent.

Ailgylchu neu Aildaflu?

Mae awdurdodau lleol ledled Cymru yn trin eu gwastraff mewn llu o ffyrdd gwahanol. Peth llesol ydy hynny. Mae’n golygu gall 22 o awdurdodau lleol teilwra’u rheolaeth wastraff i’r ardaloedd maent yn gwasanaethu. Rydym hefyd fel cymdeithas yn fwy tebygol o ddod ar draws ffyrdd gwell o drin gwastraff fel canlyniad, oherwydd mae arloesi’n fwy tebygol o ddigwydd pan fo 22 o gyfeiriadau gwahanol yn hytrach nag un model dros Gymru gyfan.

Wedi dweud hynny, mae tystiolaeth gref a chynyddol bod rhai ffyrdd yn fwy llesol yn gymdeithasol, economegol ac amgylcheddol nac eraill. Ac efallai dyma wendid y system bresennol. Gan bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio gorfodi, gall gynghorau sir parhau i lawr trywydd nad sydd cystal ac eraill er bod hen ddigon o dystiolaeth i brofi mai’r ffordd arall ydy’r gorau.

Y crachen dwi am grafu fan hyn ydy casglu deunydd ailgylchu: ei daflu i gyd mewn un sach, neu ei gasglu ar wahan; gwydr, papur, metal ayyb.

Mae rhai ffactorau yn dod ar draws yn rhesymegol:

  • Mae gwell gyda phobl systemau syml fel y cyfryw
  • Oherwydd hyn, mae llawer yn anoddach yn wleidyddol i awdurdod symud o system syml i system mwy cymhleth
  • Oherwydd y system casglu, fe fydd yn rhatach a haws casglu deunydd sydd i gyd yn mynd mewn un sach
  • Ond fe fydd y deunydd yn cael ei lygru’n haws. Mae hynny’n ei olygu pris llai am y deunydd ar y farchnad rydd, a mwy o ddeunydd yn mynd yn syth i’r gladdfa sbwriel oherwydd ei fod yn rhy lygredig i fynd trwy’r broses ailgylchu

Fe fydd awdurdodau lleol yn cloriannu’r gwahanol elfennau hyn. Er enghraifft, os byddant yn medru gwneud arbedion sylweddol trwy gasgliadau cymysg, efallai wnaiff hwn gwneud yn dda am ansawdd salach y deunydd a gasglwyd.

Mae barn Llywodraeth Cymru yn glir iawn ar y mater hwn:

Ailgylchu – i sicrhau bod gwastraff yng Nghymru nad sy’n addas ar gyfer ailddefnyddio yn cael ei gasglu ar wahan cyn belled â bod hynny’n ymarferol… fe fydd casgliadau ar wahan ar gyfer papur, metel, gwydr a phlastic erbyn 2015

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi eglurhau’r sefyllfa gyfreithiol. Wrth ddadansoddi’r datganiad hwn, mae’n debyg y bydd awdurdodau lleol yn cael hi’n anodd i barhau â systemau taflu-i-gyd-mewn-sach wedi 1 Ionawr 2015, oherwydd:

  • Erbyn 1 Ionawr 2015
  • Mae’n rhaid i bob awdurdod lleol casglu papur, metel, gwydr a phlastic ar wahan oni bai bod 
  • Ansawdd y cynnyrch yn safonol eisoes neu ei bod yn
  • Anymarferol yn dechnolegol, yn amgylcheddol ac yn economegol i gasglu’r deunyddiau ar wahan

Rydym yn gwybod nad ydy’n anymarferol i gasglu’r deunyddiau ar wahan oblegid mae sawl awdurdod lleol yn casglu ar wahan.

Y cwestiwn dwys felly yw: a ydy cynnyrch y broses yn safonol? Ymlaen â ni i graffu’r dystiolaeth, felly.

Mae Cynghorau Caerdydd a Chaerffili ill dau yn casglu deunydd ailgylchu gyda’r dechneg ‘taflu mewn un sach’. A daeth papurau gan y ddau awdurdod gerbron Aelodau ym mis Rhagfyr.

Dyma’r hyn adroddwyd gan Gyngor Caerffili:

  • Mae ffactorau allanol wedi arwain at safonau ansawdd uwch yn y diwydiant trin gwastraff (ansawdd y cynnyrch yw’r ffactor “pwysicaf un”) (4.1)
  • Mae staff y cyngor wedi gorfod gweithio mewn gorsaf didoli gwastraff er mwyn gwella ansawdd y gwastraff a anfonir ymlaen at y ganolfan ailgylchu (4.3)
  • Mae’r broses o geisio gwella ansawdd y deunyddiau ailgylchu yn “cymryd llawer iawn o amser ac yn anodd i’w cynnal” (4.6)
  • Mae’r broses wedi arwain at gostau sylweddol uwch (4.7)
  • Bydd gorfodaeth yn debygol os ydy’r cyngor am osgoi problemau ariannol oherwydd ansawdd gwael y deunydd, neu diffyg marchnad i’w brynu (4.8)
  • Mae’n bod y cyngor yn gwneud popeth o fewn ei allu i wella ansawdd/gwerth y deunydd a gasglir (4.13)

Mae’n  hawdd gweld bod y rhan fwyaf o’r problemau sy’n wynebu Cyngor Caerffili yn deillio o’r system casglu. Dim syndod bod cewynnau, baw ci, pren a gwastraff anailgylchadwy arall yn cyrraedd y canolfannau ailgylchu os ydy preswylwyr wedi cael eu hannog i luchio pob dim yn eu sachau ailgylchu.

Ar yr un diwrnod, aeth papur tebyg i Gyngor Caerdydd. Mae gyda’r cyngor yma problemau difrifol ynghylch eu system casglu deunyddiau ailgylchu hefyd:

  • Rhagwelir yn 2013/14 y bydd incwm o wastraff ailgylchadwy 29% yn llai na’r amcanestyniad ar ddechrau’r flwyddyn ariannol – colled o dros £1/2 miliwn (14.)
  • Mae angen dybryd ar y cyngor wella ansawdd y deunyddiau a gesglir (16.)

Hyd y clywaf i, dim ond yr awdurdodau hynny sy’n casglu deunydd ailgylchu yn y modd taflu-mewn-sach sy’n wynebu problemau gydag ansawdd ansafonol.

Y cwestiynau sy’n codi felly ydy:

  • A fydd yr awdurdodau hynny yn dewis symud i system casglu deunyddiau ailgylchu ar wahan ohwerwydd ansawdd gwael y cynnyrch gyda’r system taflu-mewn-un-sach?
  • A fydd yr awdurdodau hynny yn gorfod symud i system casglu ar wahan erbyn 1 Ionawr 2015 oherwydd dyfodiad y Rheoleiddiadau i rym?
  • Ac os felly, pa gamau ydy’r awdurdodau yn eu cymryd i symud i’r system newydd?