Tag Archives: Andrew Morgan

Dadleuon Gwag yr M4

Daeth nifer o sylwadau i’r fei yn ddiweddar fel canlyniad i benderfyniad Plaid Cymru i beidio â chefnogi’r Ffordd Ddu yn y Cynulliad wedi mis Mai.

Mae’r Ffordd Ddu – traffordd 6-lôn i’r de o Gasnewydd – yn gynllun dinistriol tu hwnt. Mae rhagor o fanylion am yr effaith amgylcheddol a’r sail (os o gwbl) tros ei hadeiladu mewn cyfres o erthyglau am:

A mae erthygl bellach sy’n datgymalu honiadau Llywodraeth Cymru fod y byd yn mynd i ddod i ben os na fyddwn yn adeiladu’r draffordd hon yn o sydyn.

Ond mae’n debyg nad ydy rhai pobl a ddyle gwybod yn well wedi eu darllen. Felly dyma rai ffeithiau cryno i Paul Flynn a’i gyfeillion sydd â’u pryd ar wastraffu hyd at £2 billiwn ar gynllun diangen pan fo llai o draffig ar heolydd Cymru nawr nag y bu yn 2007 a phan fo gwasanaethau cyhoeddus yn gwegian o dan straen diffyg cyllid.

Mae Paul yn honni bod ‘na tagfeydd yn ddyddiol a ‘llygredd sy’n cynyddu’.

Ond nid dyna yw’r gwirionedd. Am rannau helaeth iawn o’r dydd mae’r draffordd yn llifo’n rhwydd (mae cŵyn wrth law y Comisiynydd Gwybodaeth am fethiant Llywodraeth Cymru i ddarparu’r gwybodaeth manwl). A sut all llygredd fod ar gynnydd pan fo 1% yn llai o draffig ar heolydd Cymru nawr nag y bu yn 2007?

Dyma Paul yn honni bod unrhyw gynllun heblaw am y Ffordd Ddu yn mynd i ‘lwytho llygredd yng nghanol Casnewydd’.

Ond fe welwyd eisoes mai 8 tŷ yn unig sydd o dan warchodaeth oherwydd llygredd sy’n deillio o’r M4. Oni bai bod y 72 o bobl sy’n marw oblegid llygredd aer pob blwyddyn i gyd yn byw yn yr 8 tŷ yma mae angen ffordd arall o weithredu ar lygredd aer nag adeiladu traffordd newydd.

Dyma Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf

Dim ots gan Andrew, mae’n debyg, am y 26,978 o deuluoedd yn Rhondda Cynon Taf sydd heb gar neu fan (27% o holl deuluoedd yn y sir). Mae’n hapus iawn i wastraffu hyd at £2 biliwn o arian pobl eraill i adeiladu traffordd wnaiff galluogi pobl i yrru allan o Gymru am 70mya.

Beth am ward Andrew Morgan, sef Gorllewin Aberpennar? O’r 1,970 o deuluoedd sy’n byw yn y ward, 740 sy heb gar neu fan. Dyna i chi 38% o boblogaeth ward Mr Morgan sydd â llawer iawn o ddiddordeb mewn gwariant £2 biliwn ar draffordd fydd fawr o ddim defnydd iddyn nhw. Wedi’r cwbl, mae â 39% o deuluoedd y ward problem iechyd tymor-hir neu anabledd. Oes ffordd well o wario £2 biliwn yn nhyb y bobl yma, tybed?

Ac wrth gwrs, nid yw “busnes” yn unfarn o blaid y draffordd hon. Mae’r FSB, sy’n cynrychioli 10,000 o fusnesi ledled Cymru yn gwbl yn erbyn y cynllun.

Dyma Jayne Brencher, Cynghorydd Trallwn a Maer Tref Pontypridd

Mae Jayne yn gwybod pob dim sydd i’w wybod am ‘ddiffyg dealltwriaeth’. Wedi’r cyfan, am bob £1 a werir ar y cynllun anferth hwn, fe ddaw £1 yn ôl i’r economi.

Buddsoddwch bunt a chewch chi un yn ôl. Mae’r prosiect yma yn fuddsoddiad tipyn yn unig yn well na stwffio £1 biliwn o dan eich matras.

Os mai dyna yw “yr hyn sydd ei angen ar yr economi”, mawr ddiolch nad ydy Jayne mewn sefyllfa i wneud niwed pellach i economi Cymru.

Mae ward cyngor tref Mrs Brencher, Trallwn, o fewn ward Trallwng o ran Cyngor Rhondda Cynon Taf. Mae 1,678 o deuluoedd yn Nhrallwng; o’u plith mae 425 heb fan na char, sef 25% o’r boblogaeth. 30% o’r ward sydd â phroblem iechyd tymor-hir neu anabledd. “Extraordinary ignorance”. Gwir y gair, Cynghorydd Brencher.

Felly gair i’r gall i’r sawl sy’n honni fod yn rhaid i rywbeth fod yn gywir achos bod Llywodraeth Cymru neu’i chyfeillion yn y CBI yn ei ddweud.

Gwiriwch eich ffeithiau cyn bwrw eich boliau ar y tonfeddi. A pheidiwch ag ail-adrodd sefydliadau ddyle eu hunain wybod yn well. Wedi’r cwbl, nid yw Llywodraeth Cymru tu hwnt i gelwydda os mae am fwrw ymlaen â chynllun, doed â ddel.