Tag Archives: Llywodraeth Cymru

Tri Diwrnod o Rybudd

Druan ar Lywodraeth Cymru. Mis yn unig cyn dyddiad dechrau’r Ymchwiliad Cyhoeddus mae holl sylfaen eu cynlluniau rheibus yn y fantol.

Achos – gyda thri diwrnod o rybudd yn unig – mae diawliaid Adran Trafnidiaeth Llywodraeth Prydain wedi newid y ffordd y dyle awdurdodau cyhoeddus ragweld twf traffig.

Ond wrth gwrs, fel rydym wedi dod i arfer ynghylch cynlluniau Llywodraeth Cymru a’r M4, nid dyna’r gwirionedd.

Oherwydd mi oedd Llywodraeth Cymru yn ymwybodol ers o leiaf blwyddyn bod Llywodraeth Prydain am newid y ffordd mae’n gwneud amcanestyniadau o’r math. Mae un ddogfen ymgynghori yn eglurhau:

The review is planned to be completed in 2016

Felly naill ai roedd Adran Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru yn esgeulus wrth beidio bod yn ymwybodol bod yr adolygiad yn mynd yn ei flaen. Neu mi oedd yr adran yn gobeithio bwrw ymlaen â’u cynllun ta beth, wedyn derbyn cyngor cyfreithiol y bydde’u hachos yn annilys petaent yn bwrw ymlaen heb ddefnyddio’r fethodoleg newydd.

Pam bod y newid yn dyngedfennol bwysig?

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru – ynghyd â llawer o fudiadau ac arbenigwyr eraill – wedi beirniadu amcanestyniadau Llywodraeth Cymru, gan awgrymu eu bod yn gor-ddweud y twf traffic tebygol.

Os bydd y fethodoleg newydd yn lleihau’r twf rhagweledig, wnaiff hynny andwyo achos y llywodraeth yn dirfawr.

I gychwyn, mae modelau Llywodraeth Cymru yn dangos bod yr M4 yn ymdopi’n berffaith iawn fel ag y mae tu allan yr oriau brig, hyd 2037 o leiaf. Bydde lleihad yn y twf traffig yn atgyfnerthu’r canfyddiad hwn.

yr M4 yn ymdopi'n berffaith iawn fel ag y mae tu allan yr oriau brig

Bydde hefyd, wrth gwrs, yn lleihau’r ennillion tybiedig o ran llygredd aer, dŵr a sŵn. Dyna achos lleiaf yw’r traffig sy’n defnyddio’r M4 presennol, lleiaf yw’r llygredd a sŵn.

Yn bwysig iawn, mae dadansoddiad ennillion/colledion (Benefit-Cost Analysis) wedi’i seilio i raddau helaeth ar leihau amser teithio, yn enwedig gan deithwyr busnes:

Travel time savings typically account for a large proportion of the benefits of major transport infrastructure. For this reason they play an important role in policy making and investment decisions.

Gallem weld mewn asesiad Llywodraeth Cymru bod y buddion tybiedig i’r gymuned fusnes dros £1 biliwn, sef mwy na hanner buddion crynswth y cynllun.

Felly os bydd cerbydau ar yr heolydd yn llai niferus, bydd yr ‘ennillion’ amser yn llai. A mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn barod wedi amcangyfri bod yr asesiad ennillion/colledion yn ymylol. Mi all y newidiadau wthio’r cynllun i ochr negyddol y linell fantol.

Providing a realistic analysis of the cost also has profound implications for the Benefit:Cost Ratio. The Welsh Government claims this ratio to be 1.98 . However, substituting our costs of £1.84 billion for the Welsh Government’s costs of £0.98 billion gives us a ratio of 1.05.

Hardly a ringing endorsement of the project’s economic benefits.

Felly mae’r newid i’r fethodoleg yn mynd i achosi pen tost i Lywodraeth Cymru ymhell tu hwnt i’r angen i ail-redeg eu holl asesiadau a’r oedi i’r cynllun. Achos peidiwch â chredu am eiliad bod oedi o 5 mis yn mynd i beidio â chael effaith ar y gwaith adeiladu. Am un peth, mae’n rhaid i waith ecolegol sensitif gael ei wneud ar adegau penodol o’r flwyddyn. Mi all y newid hwn olygu oedi o flwyddyn.

Wrth gwrs, mi fydd Llywodraeth Cymru yn ywmybodol bod Adran Trafnidiaeth llywodraeth Prydain yn ymgymryd ag adolygiad o’r ffordd y mae’n amcangyfri gwerth amser teithio.

Mae’r adolygiad yma yn argymell lleihau’n sylweddol gwerth tybiedig arbedion amser gan y gymuned fusnes. Erbyn diwedd mis Mawrth, byddwn 5 mis yn nes at benderfyniad Llywodraeth Prydain i fwrw ymlaen â’u newidiadau ai peidio. All hwn achosi oedi pellach i gynlluniau Llywodraeth Cymru, yn yr un modd â’r adolygiad presennol?

 

Traffordd yr M4 (Casnewydd) I

Yn yr erthyglau sy’n dilyn, byddaf yn datgymalu rhai o’r honiadau y gwnaethpwyd gan y CBI a Llywodraeth Cymru parthed yr angen i wastraffu £1.2 biliwn o arian cyhoeddus ar draffordd newydd i’r de o Gasnewydd. Ond cyn dechrau ar y broses honno, dyma ddisgrifiad o rai o’r rhinweddau o’r ardal fydd yn cael eu niweidio os bydd y cynllun yn mynd yn ei flaen. GwentLevelsSSSIs Fel y gwelwch yn y llun uchod, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gosod trwch o goncrit dros o leiaf 4 Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), ac Ardal Arbennig Cadwraeth Afon Wysg. Mae cyfres o ddogfennau gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru parthed y Safleoedd yma.

Dynodiad yw SoDdGA sy’n dangos bod y cynefinoedd a/neu’r rhywogaethau tu fewn y ffiniau ymhlith y safleoedd bywyd gwyllt a daearegol o bwysigrwydd mwyaf yng Nghymru. Mae SoDdGA yn bwysig oherwydd maent yn cynnig cynefin i fywyd gwyllt fydde’n ei chael hi’n anodd byw mewn mannau eraill. Mae yn erbyn y gyfraith i unrhyw un niweidio rhinweddau arbennig dynodedig SoDdGA yn fwriadol.

Dynodiadau o bwysigrwydd rhyngwladol yw Ardaloedd Arbennig Cadwraeth. Caiff eu diogelu “yn ofalus iawn” o dan Cyfarwyddeb Cynefinoedd y CE.

Mae ardal Gwastadeddau Gwent yn cynnwys cynefinoedd nad oes eu tebyg yng Nghymru, gan gynnwys rhwydwaith o ffosydd iseldir. Mae’r ffosydd yma yn cynnal amrywiaeth eang o fywyd gwyllt arall, gan gynnwys cornchwiglod, dyfrgwn, llygod pengron y dŵr a’r gardwenynen feinllais, gwenynen mor brin mae hi ond i’w canfod mewn cynlleied â 20 o safleoedd yn y DU.

Cofnodwyd mwy na 350 rhywogaeth o drychfilod ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn eraill yn yr ardal, gan gynnwys y pryf milwrol Odontomyia ornata, sydd fwy neu lai’n gyfyngedig i Wastadeddau Gwent a Gwlad yr Haf. Mae’r casgliad o chwilod dŵr sydd i’w cael yng Ngwastadeddau Gwent yn unigryw yng Nghymru, yn ôl Cyngor Cefn Gwlad Cymru.

Mae llawer iawn o blanhigion prin yn yr ardal, gan gynnwys frogbit, saethlys a Wolffia arrhiza – planhigyn blodeuol lleiaf y byd nad sydd i’w canfod yn unman arall yng Nghymru.

Yn amlwg, nid yw’n hawdd i ddeddfwrfa caniatau datblygu ar safleoedd cadwraethol fel y rhai yma. Mae’n bwysicach fyth pan fydd y datblygiad hwnnw yn un mawr iawn, hynod o ddinistriol, heb sôn am yr ôl-troed adeiladu’r traffordd.

A mae’n rhaid i’r sawl sydd am ddatblygu’n ddinistriol ar y safle wneud yn siwr mai dyna yw’r unig opsiwn sydd ar gael iddynt fwrw ymlaen. Dyna yw pwrpas Asesiad Strategol Amgylcheddol, wedi’r cwbl.

Yn yr wythnosau nesaf byddwn yn gweld ai anochel neu diangen yw’r cynllun i osod 14 milltir o goncrit dros Wastadeddau Gwent.