Tag Archives: Public Services Ombudsman for Wales

Y Gweinidog Teflon

Mae awdur y blog yma â gwrthwynebiad hir-dymor i gynlluniau M4 Llywodraeth Cymru. Gallwch weld erthyglau yn sôn am:

Ond mae’r erthygl hon yn ddilyniant i’r un a gofnodwyd cyfres haerllug o gelwyddau ynghylch cynlluniau M4 Llywodraeth Cymru. Arddangosfeydd – a ddatgelwyd wedi ymholiad rhyddid gwybodaeth – a gostiodd £289,527.

Gofyn i fy hun: sut all weision sifil – sydd o dan ymrwymiad i beidio â chelwydda – alluogi celwyddau llwyr i ymddangos mewn arddangosfa gyhoeddus? Defnydd dwl o arian cyhoeddus yw i dalu i weision sifil gynhyrchu ‘ffeithiau’ anghywir, wedyn i dalu am eu darlledu.

A dyma fi felly ar drywydd y gwirionedd: gorfodi Llywodraeth Cymru i wynebu’r ffaith ei bod wedi celwydda.

Cam 1

Y cam cyntaf oedd i ddarganfod pwy a gymeradwyodd yr ystadegau a’r ffigyrau gwallus a ddefnyddiwyd. Yn ddigon rhwydd, dyma’r ymateb: Cyfarwyddwr y Prosiect. A buodd y Gweinidog Trafnidiaeth yn eu hadolygu i gyd.

Ond roeddwn am gael tystiolaeth bod gweision sifil wedi trio peidio â chelwydda, a mai i’r gwrthwyneb oedd bwriad y Gweinidog. Felly ar ôl i fi ofyn am ohebiaeth rhwng Cyfarwyddwr y Prosiect (Martin Bates) a’r Gweinidog, dyma ymateb y llywodraeth.

Ar ran/On Behalf Of ES&T-FOI@wales.gsi.gov.uk
Anfonwyd: 17 November 2015 14:20
At: Gareth Clubb
Copi/Cc: ES&T-FOI@wales.gsi.gov.uk; Freedom.ofinformation@wales.gsi.gov.uk
Pwnc: RE: ATISN 9857 – G Clubb – Martin Bates Correspondence – Final Response

Annwyl Mr Clubb,

Diolch am eich ymholiad.  Mae yna nifer o wahanol ffolderi lle y gall y negeseuon e-bost o dan sylw cael eu cadw.  Mae rhai ffolderi yn ymwneud â phrosiectau, rhai ddim.  A fyddech cystal a disgrifio’r wybodaeth yr ydych yn chwilio amdani yn benodol, er enghraifft e-bost penodol ar agwedd benodol o brosiect penodol.  Buasai’n help os byddwch mor gywir â phosibl yn eich disgrifiad, gan ganolbwyntio ar y wybodaeth yr ydych yn credu sydd gennym, fel y gallwn chwilio amdani.

Dyma’r tro cyntaf i fi ddod o hyd i drefn rhyfedd Llywodraeth Cymru o gadw gohebiaeth. Mae’n debyg bod eisiau i fi ddyfalu o blith nifer anhysbys o ffolderi gwahanol – heb gliw yn y byd o enwau’r ffolderi oedd yn cynnwys yr ohebiaeth.

Dwi ddim am i’r blogpost yma para’n hirach nag sydd yn rhaid. Yr ateb byr i’ch cwestiwn felly ydy bod Comisiynydd Gwybodaeth yn dal i archwilio trefn rhyfeddol Llywodraeth Cymru, sydd yn fy nhyb i yn mynd yn groes i’r angen statudol i hwyluso mynediad i wybodaeth.

Dyma enghraifft arall o sut y bu Llywodraeth Cymru yn ceisio peidio ymateb yn deg i ymholiad rhyddid gwybodaeth – y tro yma yn smalio nad oedd clem gyda nhw faint o draffig sy’n defnyddio cymalau gwahanol yr M4 er bod yr union ddata hwnnw wedi’i ddefnyddio i ‘ddangos’ bod yr M4 yn orlawn yn barod.

Cam 2

Cwyno i’r Awdurdod Saf0nau Hysbysebu.

Mi oeddwn i wedi clywed bod Awdurdod Safonau Hysbysebu yn gallu barnu am ddilysrwydd – ai beidio – honiadau a wneir gan awdurdodau cyhoeddus. Felly ysgrifennais â nhw, gan fynnu bod yr honiadau yn groes i’r rheoleiddiadau marchnata.

Dyna siom oedd derbyn ymateb yr ASA. Dyfarnwyd nad oedd modd iddynt ymyrryd oherwydd nad oedd dim yn cael ei ‘werthu’.

Cam 3

Cwyno i’r sefydliad ei hun.

Dyma a wnes yn fuan wedi’r arddangosfeydd, gan ennyn yr ymateb yma gan y Gweinidog ei hun. Cyfeirio fi at y ‘gwybodaeth’ gwallus ei hun wnaeth Mrs Hart. Yn amlwg, doedd yr ateb yma ddim yn plesio. Felly, ymlaen at Gam 4.

Cam 4 

Cwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Gallwch weld sail fy nghwyn fan hyn. Yn y bôn, mynnu oeddwn fod Llywodraeth Cymru wedi camarwain pobl Cymru yn fwriadol, a bod Côd Ymddygiad Gweision Sifil wedi’i dorri (o ran gonestrwydd o goddrychedd) fel canlyniad.

Codais dau brif pwynt:

  1. Bod Llywodraeth Cymru ddim wedi ymchwilio fy nghywn yn drylwyr
  2. Am bod y Gweinidog ei hun wedi ymchwilio, bod hynny’n tanseilio hygrededd y system cwyno: pa Weinidog fydde’n cyfaddef bod ei staff wedi celwydda ar orchymyn y Gweinidog honno?!

Yn y pendraw – pedwar mis yn ddiweddarach – derbyniais yr ymateb hon gan Lywodraeth Cymru (oedd wedi cael gorchymyn gan yr Ombwdsmon i ymateb).

Fel y gwelwch, dydy ymateb y llywodraeth ddim yn ymdrîn â’r honiad o gelwydda. A dyna felly oedd sail parhad fy nghwyn i’r Ombwdsmon.

Ond siom unwaith eto a gafwyd. Dyma ymateb derfynol yr Ombwdsmon. Meddai’r Ombwdsmon nad oes modd iddo ymchwilio i honiadau o dorri Côd Ymddygiad, gan mai rôl yr awdurdod ei hun ydy hwnnw. A nid oes rôl gan yr Ombwdsmon codi cwestiynau am ddilysrwydd ystadegau awdurdodau cyhoeddus.

Cam 5

Cwyno i’r Awdurdod Ystadegau’r DU.

Cafwyd cryn dipyn o drafodaeth gyda Richard Laux, Dirprwy Pennaeth Rheoleiddio yn yr Awdurdod Ystadegau. Roedd Richard mor glên i ysgrifennu’r ebost hon, gan gopio’r cynnwys at nifer o ystadegwyr proffesiynol, gan gynnwys Pennaeth Ystadegau Llywodraeth Cymru:

Oddi wrth: Laux, Richard [mailto:richard.laux@statistics.gov.uk]
Anfonwyd: 08 February 2016 14:55
At: Gareth Clubb <gareth.clubb@foe.co.uk>
Copi/Cc: Glyn.Jones@wales.gsi.gov.uk; Hart, Jamie <jamie.hart@Statistics.gov.uk>; Leadbetter, Victoria <victoria.leadbetter@Statistics.gov.uk>
Pwnc: Welsh Government infographic

Dear Gareth,

Thank you for contacting us and for the subsequent conversation to help me understand better your concerns about the infographic used by the Welsh Government about the proposals for the M4 Corridor around Newport Project.

As I explained, the statutory remit of the UK Statistics Authority is limited to “official statistics”; we understand that the information that you are concerned about is economic/cost-benefit analysis, including modelled forecasts conducted or commissioned by the Welsh Government – which is not part of our remit.

I mentioned to you the UK Statistics Authority’s Code of Practice for Official Statistics – this is the benchmark of good statistical practice and, we believe, much of it is relevant to a wider range of published quantitative information. For example:

  • Principle 2 practice 2 says “Present statistics impartially and objectively”.
  • Principle 4 practice 1 requires producers of statistics to “ensure that official statistics are produced according to scientific principles. Publish details of the methods adopted, including explanations of why particular choices were made”.
  • Principle 8 practice 1 emphasises the importance of providing “information on the quality and reliability of statistics in relation to the range of potential uses …”

Voluntary adherence to the spirit and the high standards of parts of the Code of Practice when publishing non-statistical analysis might be beneficial, in particular relating to its orderly release, including:

  • adopting clear labelling and presentation of such publications to make them readily distinguishable from official statistics releases, making it clear to readers that the analysis comprises economic estimates based on judgements and assumptions;
  • setting out, as far as possible, advice to readers about how they might replicate the analysis contained within; and,
  • adopting professional standards in the presentation of the analysis and setting out its strengths and limitations.

I am copying this email to Glyn Jones, Head of Profession for statistics at Welsh Government.

Best wishes,

Richard.

Chlywais i’r un gair gan Glyn Jones wedi hynny. Ond mi oeddwn i’n wirioneddol ddiolchgar am gefnogaeth Richard Laux. Roedd yn amlwg yn cydymdeimlo â’r sefyllfa, ond oherwydd nid “ystadegau swyddogol” mohonynt, ni fedrith wneud dim yn eu cylch.

Cam 6

Cwyno i Swyddfa Archwilio Cymru.

Ydych chi’n cofio’r rhan o ymateb yr Ombwdsmon lle soniodd nad oedd modd iddo ymchwilio materion ariannol gan mai swyddogaeth y swyddfa archwilio ydoedd?

Ymlaen atyn nhw, felly, gan fynnu bod Llywodraeth Cymru wedi camwario bron i £300,000 ar arddangosfeydd gan mai camarweiniol/celwyddol oeddynt. Yn  fwy na hynny, petai’r arddangosfeydd wedi gogwyddo’r farn gyhoeddus o blaid y draffordd, a’r draffordd yn cael ei hadeiladu ar sail hynny, bydde’r camwariant hynny’n gyfrifol am gamwariant o fwy na £2 biliwn.

Chwarae teg, mi wnaeth y Cyfarwyddwr Archwilio Ariannol ymateb. Dyma’r hyn oedd gyda fe i’w ddweud:

Oddi wrth: Wales Audit Office [mailto:WalesAuditOffice@audit.wales]
Anfonwyd: 31 March 2016 14:52
At: Gareth Clubb <gareth.clubb@foe.co.uk>
Pwnc: Camwariant Llywodraeth Cymru 15-16

Annwyl Mr Clubb,

Diolch am eich e-bost dyddiedig 22 Chwefror 2016 lle y gwnaethoch godi pryderon ynglŷn â’r cynigion presennol ar gyfer Ffordd Liniaru’r M4 yn Ne Cymru, a defnydd Llywodraeth Cymru o arian cyhoeddus a chyflwyno ystadegau tra’n cynnal cyfres o arddangosfeydd cysylltiedig ar gyfer y cyhoedd ym mis Medi 2015.

Rwyf yn ymateb i’ch e-bost ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Yn amlwg, mae prosiect Ffordd Liniaru’r M4 yn eitem sylweddol o wariant cyhoeddus, ac mae’r Archwilydd Cyffredinol yn adolygu’r prosiect o ran y potensial i ystyried y gwerth am arian a gafwyd yn y defnydd o adnoddau ac astudiaeth ar gyfer gwneud argymhellion i wella’r gwerth am arian. Rwyf felly’n ddiolchgar i chi am godi eich pryderon mewn perthynas â’r cynigion presennol, gan fod hynny’n helpu ein monitro parhaus.

Fodd bynnag, dylid cofio nid yw cwestiynu rhinweddau amcanion polisi y cyrff a archwilir gan yr Archwilydd Cyffredinol yn un o swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol na Swyddfa Archwilio Cymru. Yn ogystal, nid oes gan yr Archwilydd Cyffredinol na Swyddfa Archwilio Cymru ddyletswydd statudol i ymchwilio i gwynion yn erbyn cyrff y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn eu harchwilio. Mae ein Canllaw i Ohebwyr ar ysgrifennu at Archwilydd Cyffredinol Cymru neu Swyddfa Archwilio Cymru yn rhoi gwybodaeth fanylach am y materion hyn a allai fod yn ddefnyddiol i chi.

Fodd bynnag, byddwn yn ystyried p’un a yw gohebiaeth rydym yn ei derbyn sy’n cwyno am sefydliadau a archwilir gan yr Archwilydd Cyffredinol yn codi unrhyw bryderon a allai lywio ein gwaith archwilio. Gallaf gadarnhau bod eich e-bost hefyd wedi’i anfon ymlaen at y tîm archwilio perthnasol i lywio eu gwaith archwilio parhaus mewn perthynas â Llywodraeth Cymru ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Rydym hefyd yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r gorchmynion drafft, datganiad amgylcheddol, a chofnodion eraill cysylltiedig ac yn rhoi’r cyfle i unigolion neu sefydliadau wrthwynebu, cefnogi, neu awgrymu cynigion amgen tan 4 Mai 2016. Mae’n datgan ar y wefan y bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried ymatebion ac yna’n penderfynu a oes angen cynnal ymchwiliad lleol cyhoeddus gerbron arolygydd annibynnol. Efallai y byddwch hefyd am ddod â’ch pryderon at sylw Pwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad sydd, fel y gwyddoch o’ch cyfranogiad, wedi cyflawni ymchwiliad ar gynigion Llywodraeth Cymru yn flaenorol.

Yn gywir

Richard Harries

Cyfarwyddwr – Archwilio Ariannol

Felly nid oedd modd archwilio oherwydd nid rôl yr archwilydd ydyw i gwestiynu penderfyniadau polisi, waeth pa mor ddrud neu ddiangen ydynt. Ond roeddwn wedi calonogi eu bod wedi cymryd fy mhryderon o ddifri.

Y Senedd

Nid fi oedd yr unig un i godi cwestiynau ynghylch y celwyddau yma. Mi wnaeth Eluned Parrot ofyn cwestiynau ar lawr y Senedd ar 21 Hydref 2015. Gallwch weld ymateb y Gweinidog fan hyn. Ond dyma’r drafodaeth hanfodol:

Eluned Parrot: A yw’r wybodaeth yn y llyfryn hwn a’r arddangosfa yn gynrychiolaeth gywir, fanwl a theg o’r ffeithiau ynglŷn â ffordd liniaru’r M4?

Edwina Hart: Mae yna bobl sy’n dweud nad ydyw ac yn ôl pob tebyg, maent wedi eich lobïo chi’n briodol, ond caf fy sicrhau gan fy swyddogion ei fod.

Casgliadau

Felly, wedi cwyno i chwe chorff gwahanol, a gwrando ar ymateb y Gweinidog i gwestiwn Aelod Cynulliad, dyma fi’n dod i’r casgliad ei bod yn amhosib dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

Mi all Lywodraeth Cymru gelwydda yn ddiofn heb obaith o’i dwyn i gyfrif. Pam felly? Am mai y llywodraeth ei hun sy’n penderfynu a ydy Gweinidog ynteu swyddogion yn celwydda.

Felly gwynt teg ar ôl y Gweinidog yma. Mae hi’n troi ei chefn ar y Cynulliad gan adael gwaddol o swyddogion wedi eu heintio â chelwyddau er mwyn gwthio cynllun oedd yn freuddwyd un aelod o’r Cabinet.

Wedi ei hymadawiad ni ddaw y freuddwyd hon i fodolaeth. Wedi’r cyfan, erbyn 2037 fe fydd traffig yn symud yn hollol rhwydd am ran fwya’r dydd yn ardal Casnewydd heb un gronyn o darmac ar wastadeddau Gwent.

2037

Mae’n amhosib cyfiawnhau’r fath wariant ar gynllun dinistriol lle mae’r cwestiynau am resymeg y prosiect mor ddybryd.

Ie, gwynt teg ar ôl Edwina Hart, â sawr melys ermine yn ei ffroenau.